Braslun o'r Daith
BRASLUN O’R DAITH
Bydd tywysydd profiadol gydol y daith
Diwrnod 1 – 6 Hydref
O’r Gogledd:
Cludiant o’ch cartref i Fanceinion a hedfan i Amsterdam ac yna ymlaen i Munich.
O’r De:
Cludiant i Heathrow a hedfan i Munich.
Cludiant o’r maes awyr i’r llong.
Diwrnod 2 – 7 Hydref
Passau
Tref a adnabyddir fel ‘tref y tair afon’ am resymau amlwg. Bydd tywysydd yn ein harwain trwy’r hen dref ar hyd ffyrdd coblog a fydd yn y diwedd yn ein harwain at Eglwys Gadeiriol St Stephens ble mae organ fwya’r byd.
Diwrnod 3 – 8 Hydref
Linz
Dinas sydd yn cyfuno treftadaeth ond hefyd ddiddordeb mawr yn y dyfodol. Rhyfeddwch at un o’r casgliadau pwysicaf o gelf, hanes a thraddodiadau yn y Schlossmuseum.
Diwrnod 4 – 9 Hydref
Melk i Durnstein
Heddiw byddwn yn cyrraedd tref gysglyd Melk gyda’i habaty Benedictaidd, lleoliad y Capel Aur nodedig. Ymlaen wedyn i Durnstein sydd wedi ei lleoli ar un o droadau mwyaf y Danube. Yn y pellter fe welir gweddillion castell lle unwaith y cadwyd Richard the Lionheart yn wystl. Bydd cyfle hefyd i ymuno ar daith brofi gwin.
Diwrnod 5 – 10 Hydref
Vienna
Yn gyfoethog mewn diwylliant, celf anhygoel ac wrth gwrs cerddoriaeth, mae Vienna yn un o ddinasoedd harddaf Ewrop. Yma y bu i Mozart, Bhrams a Schubert alw’r ddinas yn gartref. Ar ein taith trwy’r ddinas cawn weld capeli Boroque, palasau a neuaddau cyngerdd hardd. Bydd cyfle yn y prynhawn i ddysgu’r Waltz a gyda’r nos bydd cyngerdd yn un o balasau’r ddinas.
Diwrnod 6 – 11 Hydref
Bratislava
Heddiw byddwn yn glanio yn Slovakia. Cyfle i ddewis mynd ar daith i Bratislav ar y trên dwristaidd a fydd yn mynd â chi trwy’r hen ddinas a heibio i gastell lle coronwyd 11 brenin ac 8 brenhines. Bydd gweddill y dydd yn rhydd i chi grwydro fel y mynnoch.
Diwrnod 7 – 12 Hydref
Budapest
Yn ystod y bore byddwn yn glanio yn Mudapest. Mae’r ddinas yn cael ei rhannu’n ddwy gan y Danube. I’r gorllewin gwelir y Budah hanesyddol yn y graig gyda’r bywiog Pest i’r dwyrain. Bydd taith o gwmpas y ddinas yn canolbwyntio ar brif atyniadau’r ddinas llefydd fel Adeiladau’r Llywodraeth gyda’i dwr Gothig. Bydd gweddill y dydd yn rhydd i chi fwynhau.
Diwrnod 8 – 13 Hydref
Dychwelyd Adra
Byddwn yn cael ein cludo i’r maes awyr ar gyfer ein hediad yn ôl. Bydd ein trafnidiaeth gartref yn ein disgwyl yn y maes awyr.
Crŵs ar y Danube
£1,8434Y pris hwn yn cynnwys yr holl hediadau, llety a thrafnidiaeth a thywyswyr trwy gydol y daith.
• Bws o’ch cartref ac yn ôl.
• Hediadau rhyngwladol.
• Mynediad i’r atyniadau.
• Holl brydau bwyd.
• 8 diwrnod o daith yn cynnwys cael eich casglu o’ch cartref i’r maes awyr ac yn ôl.
• hediadau rhyngwladol
• pob pryd bwyd ar y llong
• teithiau i’r gwahanol drefi a dinasoedd
• cyngerdd yn ninas odidog Vienna
• a llawer mwy
PWYSIG!!
Er mwyn gwarantu’r pris, mae’n ofynol i ni gadarnhau popeth, yn enwedig felly tocynnau hedfan a gwestai erbyn dechrau Mai 2020.
Cadarnhau a blaendal o £843 cyn 3 Mai, 2020 fan bellaf.
I archebu eich lle, cliciwch isod i ddadlwytho Ffurflen Gadarnhau ar ffurf PDF. Argraffwch gopi, cwblhewch y ffurflen cyn ei hanfon i’r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen.
Os y dymunwch gopi caled o’r daith a’r ffurflen, yna cysylltwch trwy unrhyw ffordd (cliciwch ar Cysylltu) ac fe anfonwn hwy trwy’r post.
Ffurflen Archebu – Crŵs ar y Danube 2020Mae tethiau Crwydro Er Budd yn boblogaidd iawn felly peidiwch ag oedi cyn archebu lle - y cyntaf i'r felin...
Cyfle bendigedig am daith gofiadwy
Tros y blynyddoedd ‘rydym wedi trefnu nifer fawr o deithiau tramor. Dyma beth oedd gan rai i’w ddweud am eu profiad –
Anfonwch ebost neu ffoniwch Dafydd Owen unrhyw bryd, ddydd neu gyda'r nos ar y rhifau isod.
© Crwydro er Budd 2020 | Cedwir pob Hawl | Gwefan gan Smala