Yn ôl i Batagonia

4-17 Hydref, 2023

TAITH 2023

Braslun o'r Daith

Yn ôl i Batagonia
4 – 17 Hydref, 2023

BRASLUN O’R DAITH
Bydd tywysydd profiadol gydol y daith

Diwrnod – 1 Dydd Mercher 4 Hydref
Hedfan o Fanceinion i Heathrow (os o’r gogledd), Heathrow (os o’r de), ac yna i Rio de Janeiro.

Diwrnod 2 – Dydd Iau 5 Hydref
Taith ddiddorol o gwmpas y ddinas gan gynnwys Sugar Loaf Mountain, Christ the Redemer, traeth enwog Cocacobana ynghyd a gerddi botaneg (barbeciw yn gynnwysiedig).

Diwrnod 3 – Dydd Gwener 6 Hydref
Hedfan i Drelew

Diwrnod 4 – Dydd Sadwrn 7 Hydref
Cyfarfod Marli, ein tywysydd, a thaith i’r Gaiman gan ymweld a’r amgueddfa, ysgolion cynradd ac uwchradd. Ymlaen i Ddolafon a Llain Las sef cartref Nel Fach y Bwcs. Swper yn y Gaiman gyda pobl leol.

Diwrnod 5 Dydd Sul 8 Hydref
Taith i Borth Madryn ple y glaniodd y Mimosa. Taith i benrhyn y Valdes lle y gobeithir gweld morfilod a bywyd gwyllt yr ardal.

Diwrnod 6 – Dydd Llun 9 Hydref
Diwrnod yn Nhrelew gan ymweld ag Amgueddfa y Deinasoriaid, Ysgol yr Hendre. Bydd opsiwn i ymweld a Punta Tombo i weld miloedd o bengwyniaid.

Diwrnod 7 – Dydd Mawrth 10 Hydref
Croesi’r paith i Esquel yng Nghwm Hyfryd.

Diwrnod 8 – Dydd Mercher 11 Hydref
Taith i Drefelin gan ymweld â chapeli, Ysgolion Cymraeg yr Andes Amgueddfa Werin a llawer mwy.

Diwrnod 9 – Dydd Iau 12 Hydref
Diwrnod rhydd i grwydro Esquel a Threfelin. Osado gyda’r nos.

Diwrnod 10 – Dydd Gwener 13 Hydref
Trwy’r Andes a’i gologfeydd bendigedig i Bariloche yn ardal y Llynnoedd.

Diwrnod 11 – Dydd Sadwrn 14 Hydref
Taith ddiddorol o gwmpas ardal Bariloche gan hedfan i Buenos Aires yn y Prynhawn.

Diwrnod 12 – Dydd Sul 15 Hydref
Taith ddifyr o gwmpas y ddinas ddiddorol hon. Sioe Tango gyda’r nos yn cynnwys pryd bwyd.

Diwrnod 13 – Dydd Llun 16 Hydref
Cyfle i siopa cyn ein hediad yn ôl i Gymru.

Diwrnod 14 – Dydd Mawrth 17 Hydref
Cyrraedd adra.

Faint mae'n gostio

Patagonia 2023

£6,500

Y pris hwn yn cynnwys yr holl hediadau, llety a thrafnidiaeth a thywyswyr trwy gydol y daith.

• bysiau drwy gydol y daith
• hediadau rhyngwladol a mewnol
• gwestai ar lwfans gwely a brecwast
• cludiant bws drwy gydol y daith
• Sioe Tango a phryd nos
• gwasanaeth tywyswyr drwy gydol y daith.

PWYSIG!!
Er mwyn gwarantu’r pris, mae’n ofynol i ni gadarnhau popeth, yn enwedig felly tocynnau hedfan a gwestai erbyn dechrau Mai 2023.

Dychwelwch y ffurflen hon ynghyd â blaendal o: £2,000  erbyn 30 Mai 2023  fan bellaf. Taliadau’n syth i’r banc neu seciau’n daladwy i ‘Crwydro’ .

Disgwylir ail-daliad o £2,000 ddiwedd Mehefin 2023 a thaliad olaf o £2,500 ddiwedd mis Medi 2023.

I archebu eich lle, cliciwch isod i ddadlwytho Ffurflen Gadarnhau ar ffurf PDF. Argraffwch gopi, cwblhewch y ffurflen cyn ei hanfon i’r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen. Mae manylion talu â siec neu daliad yn syth i’r banc ar y daflen.

Os y dymunwch gopi caled o’r daith a’r ffurflen, yna cysylltwch trwy unrhyw ffordd (cliciwch ar Cysylltu) ac fe anfonwn nhw drwy’r post.

[Bydd y ddogfen PDF isod yn agor mewn ffenestr wahanol ar eich cyfrifiadur]

Ffurflen Archebu – Yn ôl i Batagonia 2023 Taflen PDF o’r daith

ARCHEBWCH EICH LLE RWAN

Mae teithiau Crwydro Er Budd yn boblogaidd iawn felly peidiwch ag oedi cyn archebu lle - y cyntaf i'r felin...

Profiad gwirioneddol gofiadwy

Cyfle bendigedig am daith gofiadwy

Tros y blynyddoedd ‘rydym wedi trefnu nifer fawr o deithiau tramor. Dyma beth oedd gan rai i’w ddweud am eu profiad –

Gair byr i ddweud diolch am amser gwych a bythgofiadwy. Gwyneth Parry
Diolch am drefnu taith wych, mwynhau fy hun yn fawr a’r gwmnïaeth yn wych.” Beryl Vaughan
Diolch yn ofnadwy am drefnu’r daith i Batagonia mor drylwyr. Roedd pob dim yn berfaith ac yn hwyl mawr. Mair Price
Gair o ddiolch yn ddiffuant iawn i sicrhau llwyddiant y daith i’r Wladfa. Pawb wedi cael profiad bythgofiadwy. Jan a Haydn
Diolch yn ddiffuant am drefnu’r daith. Mae’n debyg fod pob emosiwn dan haul wedi ei gyffwrdd dros y cyfnod. Mair a Gwyndaf
Taith fendigedig. Edrych ymlaen at y daith nesaf.Meirion Evans

 

 

Cysylltu

Anfonwch ebost neu ffoniwch Dafydd Owen unrhyw bryd, ddydd neu gyda'r nos ar y rhifau isod.

Manylion Cyswllt

07795 485 081 (dydd) 01286 830081 (gyda'r nos)
crwydro@crwydro.com
Arwelfa, Bryn Rhos
Y Groeslon
Caernarfon
Gwynedd
LL54 7DL